Polisi Cyfrinachedd
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn gosod allan sut mae AMBIWLANS AWYR CYMRU yn defnyddio a diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i ni pan ddefnyddiwch y wefan hon.
Mae AMBIWLANS AWYR CYMRU yn ymroddedig i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Gall AMBIWLANS AWYR CYMRU newid y polisi hwn o dro i dro drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Mae’r polisi hwn yn weithredol o’r 18fed Ebrill 2011.
Gall AMBIWLANS AWYR CYMRU gadw a phrosesu eich gwybodaeth bersonol i ddibenion gweinyddu, cyfrannu mewn digwyddiadau, cofnodion sefydliadau, cofnodion gwirfoddolwyr, taliadau a chofnodion tanysgrifiadau ariannol, derbynebau ariannol electronig a chofnodion rhoddion elusennol, postio gwybodaeth, nwyddau a gwasanaethau a ddarperir, cofnodion aelodaeth o loteri, tueddiadau rhoi a dadansoddi proffeiliau.
Ni fydd AMBIWLANS AWYR CYMRU ar unrhyw adeg yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti heb gael eich caniatâd penodol chi oni bai bod gofyn gwneud hynny dan unrhyw ddeddf sydd mewn grym ar y pryd ac wedyn dim ond gyda chaniatâd penodol y Prif Weithredwr.
Ar wahân i’r defnyddiau a amlinellwyd uchod, gall AMBIWLANS AWYR CYMRU hefyd ddymuno defnyddio’ch manylion i ddibenion eraill fel cysylltu â chi i ddibenion codi arian neu i roi gwybod i chi am ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill AMBIWLANS AWYR CYMRU neu newyddion o dro i dro. Os nad ydych eisiau derbyn gwybodaeth o’r fath cysylltwch â ni os gwelwch yn dda drwy ddefnyddio’r manylion cysylltu ar y wefan hon.
Os hoffech dderbyn manylion am y wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch gan AMBIWLANS AWYR CYMRU cysylltwch â’n swyddfeydd neu ein Prif Weithredwr ar AMBIWLANS AWYR CYMRU. Gellir codi tâl rhesymol ar gyfer costau gweinyddol darparu’r wybodaeth hon. Neu ebostiwch ni yn AMBIWLANS AWYR CYMRU (link) gan nodi’ch manylion cysylltu’n glir a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi.
Os credwch fod unrhyw wybodaeth a gadwn amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch atom neu ebostiwch ni os gwelwch yn dda cyn gynted â phosibl yn y cyfeiriad uchod. Byddwn yn cywiro’n fuan unrhyw wybodaeth y ceir ei bod yn anghywir.
Diogelwch
Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn rhwystro mynediad neu ddatgeliad anawdurdodedig rydym wedi sefydlu gweithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol i ddiogelu’r wybodaeth a gasglwn ar-lein.
Cysylltiadau â gwefannau eraill
Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill sydd o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan honno. Felly, ni fedrwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a roddwch tra’n ymweld â’r gwefannau hynny ac ni reolir y gwefannau hynny gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech gymryd gofal ac edrych ar y datganiad preifatrwydd perthnasol i’r wefan dan sylw.