Noddwr a Llysgenhadon

Ambiwlans Awyr Cymru Noddwr a Llysgenhadon

BRYN TERFEL OBE

Noddwr

Mae’r seren opera Bryn Terfel wedi bod yn Noddwr ar Ambiwlans Awyr Cymru ers 2005. Mae’n cefnogi’r elusen ar draws Cymru a’n dathlu hyn yn aml drwy gerddoriaeth. Mae’r bariton-bâs wedi recordio dwy sengl CD ar gyfer yr elusen, Anfonaf Angel a’r fersiwn Saesneg, Guardian Angel.

Rhys Meirion

Llysgennad

Roedd y tenor Cymreig Rhys Meirion wedi ymuno ag Ambiwlans Awyr Cymru fel Llysgennad ym 2012. Mae Rhys yn arwain yr ymgyrch Walk On, eleni, sef taith gerdded o 200 milltir drwy Gymru a fydd yn galw heibio y tair canolfan sydd gan yr elusen.

Simon Richardson MBE

Llysgennad

Mae’r seiclwr Paralympaidd Simon Richardson wedi ymuno ag Ambiwlans Awyr Cymru fel Llysgennad ym 2012. Roedd yr athletwr o Borthcawl, sydd wedi ennill medalau aur ac arian yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing ym 2008, wedi ei gludo yn yr awyr gan Ambiwlans Awyr Cymru yn dilyn damwain ffordd. Ers hynny, mae Simon wedi sefydlu’r ymgyrch codi arian a’r hashtag #Simonstrong, gyda chyfres o ddigwyddiadau codi arian wedi eu trefnu drwy gydol 2012