Latest News

Cyhoedd Cymru yn Helpu Ambiwlans Awyr Cymru i Gyrraedd Carreg Filltir  

Dwy flynedd ar bymtheg ers sefydlu’r elusen, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cyrraedd carreg filltir bwysig o ran ei gwaith achub bywyd.  

Yn y diwrnodau  diwethaf, mae’r Elusen wedi ymateb i alwad rhif 30,000, yn cefnogi rhywun sydd mewn angen.

Lansiwyd AAC ar ddydd Gŵyl Dewi yn 2001. Gan ddechrau gydag un hofrennydd yn hedfan o Abertawe, mae wedi datblygu erbyn hyn fel y gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU sydd yn medru cyrraedd unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud. Ar gost o £6.5m flwyddyn, mae pedair canolfan awyr gan yr elusen yng Nghaernarfon, y Trallwng, Llanelli a Chaerdydd. Dyma’r unig elusen ambiwlans awyr sydd wedi ei lleoli ac ymrwymo i Gymru..

Yn ôl yr Elusen, mae’r datblygiad cyflym hwn ond wedi bod yn bosib yn sgil haelioni'r cyhoedd yng Nghymru.

Yr unigolyn cyntaf i weithio i’r Elusen yw’r prif weithredwr presennol, Angela Hughes. Dywedodd Angela: “Mae’n destun balchder fod yna 30,000 o achlysuron yn y ddwy flynedd ar bymtheg diwethaf pan ein bod wedi bod ar gael i gefnogi’r rhai hynny mewn angen. Mae sŵn rotor yr hofrennydd yn gyfarwydd i ni yn yr Elusen ond mae’n ein hatgoffa yn barhaus na fyddem yma oni bai am gefnogaeth y cyhoedd.    

“I bobl Cymru, rydym am ddweud diolch. Diolch am ymuno gyda’n loteri. Diolch am eich rhodion. Rydym yn wasanaeth sydd wedi ei greu gan bobl Cymru, ar gyfer pobl Cymru.

Yn ogystal â’n pedair canolfan awyr, mae AAC nawr yn meddu ar bedair swyddfa, deunaw o siopau manwerthu  a chaffi menter gymdeithasol yng Nghaernarfon. At hyn, mae yna 110 o aelodau staff a 650 o wirfoddolwyr ar draws y wlad.  

Ychwanegodd Angela: “Yn ogystal â’r cyfraniadau gan y cyhoedd, mae ein twf wedi bod yn bosib yn sgil yr holl staff a gwirfoddolwyr, y rhai sydd yn gweithio i ni ar hyn o bryd ac wedi gweithio i’r elusen, sydd wedi ymrwymo i’n amcan o arbed amser ac achub bywydau.

Y gwasanaeth yw’r un mwyaf datblygedig yn Ewrop. Mae hyn yn sgil y bartneriaeth unigryw Trydydd Sector-Sector Cyhoeddus rhwng AAC a GIG Cymru.  Mae wedi arwain at greu’r  Emergency Medical Retrieval and Transfer Service (EMRTS Cymru), sydd yn cael ei adnabod fel y ‘Staff Meddygol Sy’n Hedfan’, yn darparu gofal meddygol critigol a brys sy’n arloesol cyn bod y claf yn cyrraedd yr ysbyty. Mae’r gwasanaeth, sydd yn mynd â’r adran frys i’r claf, yn cynnwys meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol sydd yn medru cynnig triniaethau brys arloesol na sydd ar gael y tu allan i ysbytai fel arfer. Mae’r staff meddygol yn medru cynnal trallwysiadau gwaed, rhoi anestheteg, cynnig cyffuriau cryf i liniaru poen a chynnal amryw o weithdrefnau meddygol – a hynny ger y ddamwain/digwyddiad. At hyn, mae cleifion yn medru cael eu cludo yn yr awyr i’r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer eu hafiechyd neu salwch, gan arbed amser gwerthfawr.   

Dywedodd y ‘Meddyg Sy’n Hedfan’ Dr Ami Jones: “Mae pobl yn aml yn cyfeirio atom fel yr ‘Uned Damweiniau Ac Achosion Brys sy’n hedfan’. Mae hyn yn sgil y lefel uchel o ofal yr ydym yn medru cynnig erbyn hyn. Mae hyn yn cynnwys y driniaeth safonol sydd ar gael yn  Uned Damweiniau Ac Achosion Brys a’r gallu i fynd â chlaf yn uniongyrchol i’r gofal arbenigol sydd angen arno

“Diolch i gyfraniadau gan bobl Cymru, mae ein gwlad yn medru darparu gwasanaeth ambiwlans awyr y mae’n falch ohono ac wedi dod erbyn hyn yn rhan hanfodol o’n tirwedd gofal brys.”

 

Stori Claf

Mewn digwyddiad prin, roedd dwy o’r 30,000 galwad a dderbyniwyd gan AAC i gefnogi’r un person, a hynny o fewn wythnosau. Roedd Grant Withington, sydd yn gwneud celfi o Landrindod, wedi gorfod dibynnu ar y gwasanaeth ddwywaith yn ystod Mehefin 2018 yn dilyn dau ddigwyddiad yn bygwth ei fywyd.   

Roedd y digwyddiad cyntaf ar 10 Mehefin pan oedd Grant yn garddio. Yn sgil damwain anffodus gyda llif gadwn, cafodd anaf difrifol i’w law.

Dywedodd Grant: “Roeddwn wedi torri drwy ran o’m llaw chwaith ac wedi torri drwy’r cyhyrau, tendonau a darnau o’r asgwrn hefyd. Roedd yr Uned Damweiniau  ac Achosion Brys wedi helpu i atal llif y gwaed a sylweddoli bod angen triniaeth arbenigol arnaf. Dyma pryd y ffoniwyd Ambiwlans Awyr Cymru.”

Ffoniwyd am hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru  o’r Trallwng a hedfanwyd Grant i’r llawfeddygon plastig arbenigol yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Fodd bynnag, nid dyna ddiwedd profiad Grant ag AAC. Ar 27ain o Fehefin, roedd adref pan ddechreuodd deimlo yn sâl. Dywedodd ef:: ““Penderfynodd fy ngwraig y byddai’n well i ni fynd i’r feddygfa leol yn syth. Ar ôl cwblhau rhai profion, ffoniwyd yn syth am ambiwlans traddodiadol. Roeddwn yn dechrau cael trawiad ar y galon.

“Rwy’n cofio teimlo yn bryderus, gan fy mod ond wedi cael damwain rhyw bythefnos yn ôl. Pan gyrhaeddodd yr ambiwlans traddodiadol, dywedwyd fod ysbyty Treforys angen i mi fod yno o fewn awr, ac ni fyddai hyn yn bosib pe baem yn teithio mewn ambiwlans traddodiadol.

“Am yr eildro mewn rhai wythnosau yn unig, ffoniwyd am Ambiwlans Awyr i’m cynorthwyo eto. Roedd y criw wedi fy nghasglu a’n hedfan i Dreforys o fewn yr awr hanfodol honno, gan ganiatáu fod modd i mi dderbyn triniaeth a fyddai yn achub fy mywyd.

Wedi treulio sawl diwrnod yn ysbyty Treforys am yr eildro mewn llai na thair wythnos, cafodd Grant fynd adref, ac roeddynt wedi achub ei fywyd.

Ychwanegodd ef: ““Gan fy mod yn byw mewn ardal wledig, roedd ymateb yr ambiwlans awyr yn hanfodol ac wedi arbed amser gwerthfawr. Byddai’r daith i Dreforys wedi cymryd dwy awr ar yr heol, ond roedd Ambiwlans Awyr Cymru wedi  fy nghludo i’r help a oedd angen arnaf mewn 16 munud yn unig.  

“Bydd fy nheulu a minnau yn fythol ddiolchgar i Ambiwlans Awyr Cymru. Rwyf yn aml yn gweld yr hofrennydd yn hedfan dros fy nhŷ ond nid oeddwn yn credu am eiliad y byddem eu hangen. Ni fyddwn byth yn medru diolch iddynt yn ddigon. Ni fyddem yma heddiw oni bai am eu cyflymder, sgil a’u proffesiynoldeb.

Leave a Comment

Cymdeithasu: