Latest News

Casglu £1,000 er cof am Nigel Thomas

Mae siec £1,000 wedi cael ei chyflwyno i Ambiwlans Awyr Cymru yng Nghaernarfon er cof am Nigel Thomas o Wersyllt.

Ym mis Mai, collwyd Nigel ei fywyd ar ôl bod mewn damwain ddifrifol. Roedd yn ddymuniad penodol gan Nigel fod unrhyw arian a gasglwyd yn cael ei gyfrannu i  Ambiwlans Awyr Cymru.

Roedd chwaer Nigel, Wendy a’r teulu wedi ymweld â’r ganolfan awyr yng Nghaernarfon i gyflwyno’r arian.

Dywedodd cydlynydd cymunedol AAC, Alwyn Jones: “Rydym yn hynod ddiolchgar i deulu Nigel am y rhodd, yn enwedig yn ystod amser caled iawn. Roedd yn bleser i’w croesawu hwy i’r ganolfan awyr yng Nghaernarfon er mwyn cwrdd â’r criw.

Mae’r teulu eisoes yn gefnogwyr o’r elusen hofrennydd ac yn bwriadu parhau i gefnogi’r elusen yn y dyfodol.

Leave a Comment

Cymdeithasu: