Siop Abertawe yn dathlu
Mae un o’r 16 siop sydd gan Ambiwlans Awyr Cymru wedi bod yn dathlu blwyddyn gyntaf lwyddiannus yn ddiweddar.
Roedd siop, sydd i’w chanfod ar Stryd y Coleg yn Abertawe, yn flwydd oed ar ddydd Iau, 26ain Hydref ac mae’r siop wedi mwynhau blwyddyn gyntaf lwyddiannus iawn ers profi’n boblogaidd iawn yn y ddinas.
Dywedodd rheolwr y siop Julie Cornelius: “Hoffwn ddiolch i’n holl wirfoddolwyr a’n cwsmeriaid ffyddlon am eu cefnogaeth.
Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn gyffrous a llwyddiannus arall.”
Roedd masgot Ambiwlans Awyr Cymru ‘Biggles’ wedi ymuno â’r gwirfoddolwyr yn y siop yn ystod y digwyddiad.
Dywedodd y Cydlynydd Cymunedol Donna Rogers: “Rydym mor falch o siop Abertawe, yn enwedig ar ôl y fath flwyddyn lwyddiannus.
Hoffwn ddiolch i’n holl gwsmeriaid sydd yn ymweld â ni’n gyson ac unrhyw un a ddaeth heibio ar y diwrnod er mwyn dathlu gyda’n staff a’n gwirfoddolwyr.”
Mae siop Abertawe yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn helpu i achub bywydau pobl yng Nghymru drwy gadw’r hofrenyddion yn hedfan.