Parc Gwyliau yn casglu mwy na £1,000 i Ambiwlans Awyr Cymru
Mae cymuned parc gwyliau yng Nghanolbarth Cymru wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau dros yr haf er budd Ambiwlans Awyr Cymru, gan gasglu mwy na £1,000
Mae Parc Gwyliau Tan y Ffridd wedi’i leoli yn Llangyniew ym Mhowys ger y Trallwng.
Dros yr haf, roedd perchenogion y parc Judy Weight a Charmaine Sheehan ynghyd â’r preswylwyr, wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau er mwyn casglu arian i’r elusen. Roedd y digwyddiadau yn cynnwys sêl cist ceir, raffl a thombola. Roeddynt hefyd wedi cynnal cystadleuaeth pêl fonws sydd yn cael ei chynnal drwy’r flwyddyn.
Y cyfanswm a gasglwyd oedd £1100 a chyflwynwyd yr arian i griw Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolfan awyr y Trallwng.
Dywedodd Anna Evans, rheolwr codi arian AAC yn y Canolbarth: “Rydym mor ddiolchgar am y gefnogaeth wych gan bawb yn y parc a dreuliodd yr haf yn casglu arian er mwyn cadw hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru yn yr awyr
“Mae hon yn enghraifft arbennig o’r nifer o ffyrdd gwahanol a chreadigol y mae pobl yn helpu’r elusen ac yn cael cryn hwyl ar yr un pryd.”