MAE CEFNOGWYR AMBIWLANS AWYR CYMRU NAWR YN MEDRU CODI ARIAN YCHWANEGOL, A HYNNY HEB ORFOD GWARIO CEINIOG.

Mae’r elusen wedi ei dewis gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, un o brif sefydliadau cyllidol Cymru, i fod yn bartner cyfrif cynilion Affinity Instant er mwyn helpu i gasglu arian hanfodol.
Mae ein cefnogwyr yn medru agor cyfrif Affinity Instant, a bydd Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn gwneud cyfraniad pob blwyddyn i’r elusen sydd gyfwerth ag 1% o’r llog sydd yn cael ei dalu’n flynyddol neu’n ddyddiol ar y balans yn eu cyfrif. Bydd yr elusen yn elwa mwy po fwyaf yw’r arian sydd yn cael ei gynilo!
Mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy yn falch o gynnig ymrwymiad cyllidol cynaliadwy i Ambiwlans Awyr Cymru, ac wrth wneud hyn, mynd ati i atgyfnerthu darpariaeth gwasanaeth hanfodol, sy’n achub bywyd ar hyd a lled Cymru.
Am y manylion llawn ac i agor Cyfrif Affinity Instant, ewch i ymweld â changen o Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ewch i’r wefan www.monbs.com/waa neu ffoniwch 01633 844 400.
Mae Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy wedi ei awdurdodi gan Awdurdod Rheoleiddio’r Prudential ac yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ac Awdurdod Rheoleiddio’r Prudential. Rhif Cofrestredig Gwasanaethau Cyllidol: 206052.