YN HELPU CLEIFION IEUENGAF CYMRU: MAE AMBIWLANS AWYR CYMRU YN ADRAN ARBENIGOL O’R ELUSEN AMBIWLANS AWYR CYMRU.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi ymrwymo i wasanaethu pawb yng Nghymru. Rydym yn barod i ymateb bob un dydd o’r flwyddyn, yn barod i helpu unrhyw un yn ystod eu hawr fwyaf o angen. Mae rhan bwysig o’n rôl yn cynnwys darparu’r Ambiwlans Awyr Cymru i Blant. Dyma adran arbenigol o’r elusen oherwydd mae ein cleifion ieuengaf angen ystod wahanol o driniaethau.
Mae hyn yn rhan hanfodol o wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru, ac yn darparu’r gofal arbenigol sydd angen ar gyfer cleifion pediatreg a newyddenedigol sydd angen cymorth i gael eu cludo yn yr awyr.
Datganiad: Rydym wedi derbyn adroddiadau yn ddiweddar fod gwasanaeth ambiwlans awyr i blant o Loegr yn codi arian yng Nghymru. Nid oes gennym unrhyw gysylltiad gyda’r elusen hon. Darllenwch ein datganiad am fwy o wybodaeth.

Llun (uchod): Yr ymgynghorydd meddygol brys Dr Pete Williams gyda’n Cryud Cynnal, sy’n cael ei ddefnyddio er mwyn cadw babanod newydd yn gynnes tra’n hedfan ar gyrchoedd achub 999.
Trosglwyddiadau hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru
Yn sgil rhoddion elusennol, roeddem wedi cyflwyno pedwerydd hofrennydd yn 2016, sydd yn cael ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer cludo babanod a phlant rhwng ysbytai. Roedd hyn yn golygu bod AAC wedi dod yn wasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU. Mae’r hofrennydd EC135 T2e yn gweithredu o ganolfan awyr yr elusen yng Nghaerdydd ac yn gwasanaethu Cymru gyfan.
Mae gwaith cludo yr hofrennydd yn rhan bwysig o’n gwaith gyda phlant, sydd yn aml angen teithio i ganolfannau pediatreg a newyddenedigol ar draws y DU. Mae pob un claf yn wahanol, ac mae AACiB yn cludo pob un plentyn i’r uned ysbyty sydd angen ar gyfer y salwch neu’r anaf.
Rydym yn gweithio gyda thimau GIG ar draws Cymru er mwyn gofalu am blant a babanod sydd angen gofal meddygol brys, neu angen eu hedfan o ganolfan i blant - gan helpu cleifion ifanc i osgoi gorfod teithio ar hyd yr heol.
Yn y llun (uchod): Timau newyddenedigol ysbyty yn ymuno ag Ambiwlans Awyr Cymru i Blant er mwyn hedfan baban a gafodd ei eni’n gynnar o’r Rhyl i Gaerfyrddin yn ein crud cynnal arbennig, gan arbed oriau yn teithio ar hyd yr heolydd.
Crud cynnal mwyaf datblygedig Prydain
Yn gweithio ag asiantaethau GIG, gan gynnwys y Cymru Inter-hospital Acute Neonatal Transport Service (CHANTS), roedd AAC yn rhan o dîm arbenigwyr Cymreiga ddaeth ynghyd er mwyn adeiladu crud cynnal newydd, hynod ddatblygedig ar gyfer babanod sydd yn sâl ac sydd angen eu cludo.
Fel rhan o’r bartneriaeth hon, mae yna ddau grud cynnal nawr ar Ambiwlans Awyr Cymru er mwyn cludo babanod sydd yn sâl ac sydd yn agored i niwed.
Mae’r crudau cynnal yn cael eu cynhesu, yn llawn ocsigen ac wedi ei amgylchynu gan siambr Perspex, sydd yn golygu bod y meddygon yn medru gweld a monitro'r babi yn fwy eglur. Maent yn pwyso100kg yr un ac wedi eu ffitio yn erbyn sled sydd ynmedru cael ei wthio i mewn i’r hofrennydd.

Stori Elain
Yn 2010, roedd Elain fach o Aberystwyth ond yn 12 wythnos oed pan oedd angen ei chludo ar frys o Ysbyty Bronglais i Ysbyty Prifysgol Cymru Caerdydd, sef taith o fwy na 100 milltir.
Cyn iddi gael ei geni, cafwyd gwybod bod yna broblem gyda chalon Elain, ac wedi iddi waethygu un dydd, fe’i cludwyd ar frys gan Ambiwlans Awyr Cymru i Gaerdydd.
Wedi iddi gael llawdriniaeth ar ei chalon, roedd Elain wedi treulio pum mis yn yr ysbyty ac wedi derbyn diagnosis o pulmonary atresia sydd yn cael ei achosi gan gyflwr geneteg prin, 22q11.2 Deletion Syndrome.
Mae rhieni Elain, Bridget a Gareth, wedi casglu miloedd o bunnoedd ar gyfer y gwasanaethau sydd wedi ei helpu ar hyd y ffordd, gan gynnwys arian ar gyfer fideos laryngoscopes i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’r cyfarpar yma yn helpu i glirio llwybrau anadlu wrth ddefnyddio camerâu ac wedi ei deilwra yn arbennig i blant.
Stori Will
Roedd Will, a oedd yn bum mlwydd oed, wedi disgyn 20 troedfedd drwy sied fferm ger y cartref teuluol yn Nhan y Bryn ger Abersoch, gan daro ei ben ar lawr concrit. Aeth criw Ambiwlans Awyr Cymru darw i helpu Will gan ei gludo ef a’i fam i’r ysbyty agosaf ym Mangor o fewn 13 munud, a sef taith a fyddai’n cymryd awr i’w chwblhau ar yr heol.
Dywedodd mam Will, Rhian: “Roedd y parafeddyg, Ian, wedi siarad gyda Will yn y Gymraeg, sef ei iaith gyntaf, ac roedd wedi rhois sicrwydd. Caniatawyd i mi hedfan gyda hwy ac rwyf mor ddiolchgar am hyn gan y byddai’r daith honnon mewn car wedi bod mor anodd. Ond roed dy daith yn 13 munud o ran hyd yn unig ac roeddwn ger ei ochr drwy gydol yr amser.”
Yn ffodus, roedd Will ond wedi dioddef ambell glais a chrafiadau – ffaith sydd yn rhyfeddu’r teulu a’r criw.
Ychwanegodd Rhian, “Rydym mor ddiolchgar i’r criw a’r meddygon am bob dim y gwnaethant ar y diwrnod hwnnw maent wir yn arwyr yn nhyb Will. Mae’n siarad am Ian a John drwy'r amser– mae’n meddwl eu bod oll yn ffrindiau gorau.”

Stori Anouk
Roedd Anouk, a oedd yn saith fis o oed, wedi cael ei chludo gan Ambiwlans Awyr Cymru wedi iddi ddisgyn a tharo ei phen ger ei chartref yng Nghonwy. Roedd ei mam, Sioux, wedi ffonio 999 ac yn sgil oedran a natur anaf Anouk, danfonwyd yr hofrennydd i’w helpu.
Roedd Anouk, Sioux a’i thegan Tiger wedi eu cludo gan yr hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, lle y gwellodd Anouk yn llwyr.
Ers y ddamwain yn 2011, mae Anouk wedi dechrau yn yr ysgol ac yn 5 mlwydd oed erbyn hyn. Mae brawd iau ganddi, Max, ac mae am fod yn filfeddyg pan fydd yn hŷn.

Stori Adam
Roedd Adam yn 18 mis oed pan oedd angen ei gludo ar frys i’r ysbyty yn ystod gwyliau teulu yn Sir Gaerfyrddin.
Dyma ei dad, Iain, yn olrhain y diwrnod hwnnw nȏl yn 2010: “Roeddwn yn ymweld â’n teulu i’r gogledd o Gaerfyrddin. Yn ystod y diwrnod, roedd Adam wedi dechrau cael brech a chyfogi. Y peth nesaf, roedd wedi mynd yn las a’n ddiymadferth. Cawsom fraw go iawn.
“Buasai wedi cymryd o leiaf 35 munud i gludo Adam i’r ysbyty mewn ambiwlans traddodiadol ond roedd Ambiwlans Awyr Cymru yn medru ei gludo yno mewn 4 munud.”
Diolch i gefnogaeth y cyhoedd, mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi medru uwchraddio’r hofrennydd i fodel ‘cenhedlaeth newydd’ sydd yn golygu bod yna sedd ychwanegol i’w fam, Clare, i hedfan gydag Adam.
Ychwanegodd Iain: “Roedd yn gymaint o ryddhad bod Clare yn medru hedfan gydag Adam, a bod Ambiwlans Awyr Cymru yno ar ein cyfle y diwrnod hwnnw. Mae’n atgyfnerthu pa mor bwysig yw’r ambiwlans awyr.”
Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru nawr wedi ail-leoli ei wasanaeth pediatreg a chynenedigol yn barhaol i’r ganolfan newydd yng Nghaerdydd o Dydd Llun, 4 Rhagfyr
Find out more about the paediatric and neonatal missions we undertook throughout Wales last year.
Rydym wedi derbyn ymholiadau gan aelodau o’r cyhoedd yn ddiweddar am wasanaeth ambiwlans awyr i blant arall o Loegr, sydd wedi bod yn casglu arian o ddrws i ddrws.