
Ffordd gyflym a hawdd i gyfrannu at Ambiwlans Awyr Cymru yw drwy’r apêl Gweithredwch Nawr – danfonwch LEAP43 £3 mewn neges destun i 70070 er mwyn gwneud cyfraniad i’n tri hofrennydd heddiw!
Mae hwn yn wasanaeth sydd yn rhad ac am ddim i Ambiwlans Awyr Cymru. Heb unrhyw ffioedd rhwydwaith, mae pob un geiniog yn cael ei chyfrannu i’r elusen ac mae modd ychwanegu Cymorth Rhodd at roddion.
Am y termau ac amodau llawn ar y cynllun, ewch os gwelwch yn dda i www.justgiving.com/justtextgiving
Mae modd i chi i gyfrannu’n gyson neu wneud taliad sengl – bydd pob cyfraniad yn helpu. Cofiwch ychwanegu Cymorth Rhodd at eich cyfraniad os yn bosib.
Hawdd – ffoniwch eich swyddfa codi arian Ambiwlans Awyr Cymru agosaf ar 0844 85 84 999 a byddwn prosesu eich cyfraniad dros y teleffon.
Rydym wrth ein bodd gyda’r post hen ffasiwn. Mae modd i chi gyfrannu drwy ddanfon siec yn daladwy i "Ambiwlans Awyr Cymru" i’n Prif Swyddfa yn y cyfeiriad isod. Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich holl fanylion cyswllt fel bod modd i ni ysgrifennu yn ôl atoch er mwyn dweud diolch.
Fel arall, lawrlwythwch a chwblhewch ein ffurflen gyfrannu m neu mandad archeb sefydlog a’i ddanfon yn y post.
Ambiwlans Awyr Cymru
Ty Elusen,
Parc Busnes Stiwdios y Bae
Ffordd Fabian
Abertawe
SA1 8QB
A ydych yn Drethdalwr yn y DU?
Os felly, bydd eich rhodd yn gwneud hyd yn oed fwy o wahaniaeth. Ni fydd yna costio dim byd ychwanegol i chi ac yn golygu bod 25% ychwanegol yn dod i’r elusen. Er enghraifft, byddai rhodd o £10 yn troi yn £12.50.
Os ydych yn cyfrannu ar-lein, dylid rhoi tic yn y blwch er mwyn cadarnhau eich bod yn drethdalwr yn y DU – mae mor hawdd â hynny!
Os ydych yn cyfrannu drwy’r post, dylech nodi y datganiad canlynol yn eich llythyr: “Rwyf yn cadarnhau fy mod yn Drethdalwr yn y DU a hoffwn ychwanegu Cymorth Rhodd at fy rhodd,”neu lawrlwythwch ffurflen cymorth rhodd yma.
Mae modd i ni hefyd i ddanfon ffurflen Cymorth Rhodd i chi yn y post.
Diolch i chi am eich rhodd achub bywyd.
Hawlfraint © 2013 Ambiwlans Awyr Cymru
Gwefan wedi'i dylunio gan
Caboodle Media